4 Mehefin 2000
Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19
Annwyl Adrian ac Isobel,
Diolch i chi am eich llythyr ar 5 Mai 2020 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynglŷn ag effeithiau posibl argyfwng y coronafeirws ar sefyllfa ariannol Swyddfa Archwilio Cymru a’i gallu i gyflawni ei gwaith.
O ganlyniad i’r pandemig bu’n rhaid newid arferion gwaith yn y rhan fwyaf o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall effaith COVID-19 ar y cyrff a ariennir yn uniongyrchol drwy Gronfa Gyfunol Cymru.
Sylwaf fod eich llythyr eisoes yn nodi’r angen i geisio arian o’r gyllideb atodol i fynd i’r afael â diffyg, a allai fod yn sylweddol, yn yr incwm rydych yn ei amcangyfrif o’r ffioedd. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar i gael rhagor o fanylion am y goblygiadau ar gyfer eich sefyllfa ariannol eleni, gan gynnwys unrhyw arbedion a chostau ychwanegol. Er bod y Pwyllgor yn gwerthfawrogi y gallai unrhyw arbedion o ganlyniad i newidiadau mewn arferion gwaith gael eu gwrthbwyso gan gostau eraill, byddai'n ddefnyddiol cael dadansoddiad llawn i alluogi Aelodau i ystyried y goblygiadau ariannol yn llawn.
Byddai'n ddefnyddiol cael eich ymateb erbyn 7 Gorffennaf 2020.
Yn gywir,
Llyr Gruffydd
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English.